Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Hydref 2020
Amser:
09.03 -
09.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at un newid i'r agenda ar gyfer heddiw – amseriad y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynnal trefn yn y Siambr hybrid
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod, yn dilyn anhrefn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, wedi ysgrifennu at yr Aelod dan sylw yn dweud na fyddai'n cael ei alw i siarad nes iddi gael ymddiheuriad ffurfiol. Mae hyn yn gymwys i’r trafodion hynny sy’n destun disgresiwn y Cadeirydd o ran a ddylid galw Aelod i siarad ai peidio, ac felly byddai’r Aelod yn cael ei alw i ofyn Cwestiwn 5 i'r Prif Weinidog heddiw. Cafodd y Rheolwyr Busnes eu briffio ar y gweithdrefnau ar gyfer cynnal trefn a sut y byddai'r rhain yn gweithio mewn amgylchedd hybrid.
Dethol gwelliannau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi gofyn i swyddogion roi arweiniad i'r Aelodau ynghylch dethol gwelliannau yn ystod cyfarfod llawn hybrid.
Gofynnodd y Trefnydd i'r Llywydd a ellid gwneud penderfyniadau ar ddethol yn gynharach yn yr wythnos, er mwyn helpu i baratoi ar gyfer dadleuon. Esboniodd y Llywydd ei bod yn gwneud synnwyr iddi wneud y penderfyniadau ar fore'r Cyfarfod Llawn pan fydd ganddi ddarlun llawnach o nifer y siaradwyr ac ati, ac y byddai’r materion a godir mewn gwelliant, yn amlach na pheidio, yn cael eu codi yn y ddadl p'un a gaiff gwelliant ei ddethol ai peidio.
Gwasanaethau Clyweledol (AV)
Mae Jenny Rathbone wedi gofyn a allai ddangos deunydd clyweledol yn ystod y Ddadl Aelod ddydd Mercher. O ystyried yr anawsterau ymarferol, mae'r Llywydd wedi penderfynu na ellir defnyddio deunydd clyweledol mewn Cyfarfod Llawn hybrid na rhithwir.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ddau ddiweddariad i'r amserlen tair wythnos:
Dydd Mawrth 20 Hydref 2020 -
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
3.4 Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dethol cynnig ar gyfer dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i'w drafod ar 21 Hydref:
NNDM7427
Alun Davies
Rhun ap Iorwerth
Andrew RT Davies
Dai Lloyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:
a) Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;
b) awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol at ddiffibrilwyr cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;
c) Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i bobl ledled Cymru;
d) byrddau iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty; ac
e) Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn erbyn amcanion bob blwyddyn.
3.5 Amserlen Cwestiynau Llafar Ddiwygiedig
Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r amserlen cwestiynau llafar, a chadarnhaodd y Trefnydd y bydd dogfen cyfrifoldebau Gweinidogol newydd ar gael yn ddiweddarach heddiw.
4 Papur(au) i’w nodi
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Unrhyw Fater Arall
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 19 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 19 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
Cyfarfod Llawn Hybrid
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y nodyn a ddosbarthwyd ganddi, yn amlinellu ei syniadau ar yr ystod o drefniadau y gellid eu rhoi ar waith ar gyfer cyfarfodydd llawn a gofynnodd iddynt drafod gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf. |
Seddi
Dywedodd Darren Millar wrth y Rheolwyr Busnes fod Paul Davies wedi ysgrifennu at y Llywydd yn ffurfioli'r cais i Ganiatáu i Aelodau Ceidwadol ddefnyddio seddi yn y Siambr sy'n cael eu gadael yn wag gan Aelodau grwpiau eraill sy'n bresennol drwy gyswllt fideo.